Abby Poulson : i weld, to see, to imagine, i ddychmygu

Mae fy milltir sgwâr yn rhywbeth sydd wedi dod yn arfer i mi yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf. Pan symudais gartref i fyw gyda fy nheulu ar ôl fod yn ‘sad grad’ a cholli ffrindiau a bywyd cymdeithasol, roedd y tir yn un o’r unig bethau i mi fwynhau a chadw fi’n sane. Wnaeth fy nhirwedd leol troi mewn i le ar gyfer mentro, chwarae a meddwl am y dyfodol. Trwy gerdded yn aml, a chwilio yn fy nhir am bethau newydd i edrych arno, fe wnes i sylweddoli gwahanol batrymau diddorol yn yr ardaloedd gyda hanes o weithgareddau diwydiannol. Gyda fy nghamera byddwn yn tynnu lluniau o’r pethau roeddwn i’n cael i ddenu at, ond doedd lluniau ddim yn teimlo fel bod nhw’n ymddangos maent y safleoedd yma a’r effaith a newid maen nhw’n dangos o ddydd i ddydd.

Mewn ffordd weledol, rwy’n hoffi gweithio gyda ffordd ffragmented o greu lluniau, trwy gymysgu prosesau amgen ffotograffig, a hefyd cymysgu elfennau o gyfryngau arall fel clai, cerrig, a phethau sy’n tyfu o’r tir. Mae’n bwysig i mi feddwl hefyd mewn ffordd fwy amgylcheddol i greu lluniau, yn enwedig os mae fy ngwaith yn dod o’r tir.

Pan welais y callout ar lein ar gyfer y prosiect yma, a’r cyfle i gysylltu gyda thirwedd Cymru yn fwy eang teimlais y cyfle i wthio’r proses o gerdded, edrych, ac ymateb personol, i weld beth sydd o amgylch a chysylltu gyda hynni, ble bynnag i ni, a hefyd i beidio fod yn ofn o ddefnyddio ein dychymyg am y math o Gymru sydd yn ein meddwl, ac i ofalu'r syniad yna.

I ddysgu mwy am waith Abby gall edrych ar ei Proffeil Artist

Previous
Previous

Veronica Calarco : Yn Ystod y Cyntaf Encil

Next
Next

Emma Jayne Holmes : Joined up thinking / Joining up the thinking?