Manon Dafydd

Participating in We Live With the Land

Rwyf yn mwynhau darlunio’r blodau gwyllt lle bynnag y byddaf yn mynd - boed hynny ym mannau gwahanol o Gymru neu dramor. Rwy’n defnyddio beiro denau i greu darluniau syml ond cain sy’n fwy o ymgais i ddal teimlad a symudiad y blodyn yn hytrach na bod yn ddehongliad ffotograffig, ‘gwir i’r byw’ ohono. Rwy’n defnyddio paent dyfrlliw i liwio’r blodyn - teimlaf fod dyfrlliw yn gweddu ei hun yn dda i’r lliwiau a’r gweadau sidan ysgafn sydd i’w cael ar betalau ac ati. Rwy’n hoff iawn o ddysgu enwau Cymraeg y blodau gwyllt, a’r amryw enwau sydd yn cael eu defnyddio o le i le ac o berson i berson. Yn aml iawn mae’r enwau Cymraeg yn rhai del, digrif ac yn dweud rhywbeth am y tir neu’r awyrgylch gall un eu darganfod. Rwyf hefyd yn hoff o ffotograffiaeth, ffilm yn bennaf, i ddogfennu hen adeiladau, ffyrdd o fyw a’r bobl sy’n siapio’r tirwedd o’m cwmpas.

Rwyf hefyd yn olygydd a dylunydd i’r llyfryn-gylchgrawn Codi Pais. Mae rhoi llwyfan a dathlu lleisiau merched a phobl sy’n cael eu tan-gynrychioli yng Nghymru, a hynny drwy’r Gymraeg yn rywbeth rwy’n teimlo’n angerddol tuag ato. Byddaf yn ceisio dylunio pob rhifyn gyda sensitifrwydd i’r thema a thestun yr erthyglau gwahanol, tra hefyd yn cadw pethau’n drawiadol a hardd. Er bod elfennau o fy ymarfer i’w weld yn bell o’u gilydd, credaf bod fy mwriad yr un peth; ymgais i gofnodi a gwarchod ardal, tirwedd, iaith neu ffordd o fyw cyn iddynt ddiflannu o achos datblygiadau’r byd fodern, diffyg gwybodaeth a chydnabyddiaeth o’r Gymraeg, neu newid hinsawdd. Mae’r bygythiadau hyn yn dod yn fwyfwy amlwg. Teimlaf, wrth rannu harddwch ein bro ac ein glwad gyfan ar ffurf eglur a chelfyddyd, y gallwn chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn yr hyn sy’n bygwth ein gormesu.

Watch: Artist Talk

Read: Blog

 
Previous
Previous

Wanda Garner

Next
Next

Jo-anna Duncalf